Mynd i'r cynnwys

Cymryd Rhan

Mae angen eich help arnom!

Mae Cegin y Bobl wedi’i hadeiladu ar bŵer pobl!

Allech chi roi rhodd i gefnogi ein gwaith? Efallai eich bod chi’n gogydd medrus ac yn berson cymdeithasol eich hun – beth am wirfoddoli? Neu gallwch danysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chodi eich llais gyda’n hymgyrchoedd sydd i ddod.

Rhoi nawr

Trwy roi coginio yn ôl yn nwylo’r bobl, gallwn fynd i’r afael â chlefydau sy’n deillio o’n diet, anghydraddoldeb iechyd, ac adeiladu cymunedau cryfach ac iachach. Helpwch rieni i goginio prydau bwyd fforddiadwy ac iach i’w plant. Helpwch berson ifanc i ennill hyder ac annibyniaeth. Helpwch gymuned i gymryd eu hiechyd i’w dwylo eu hun. Pam ddim gwneud rhodd heddiw.

Cyfranwch nawr

Codi Arian yn y Cymuned

Cymerwch ran a helpu i gefnogi cenhadaeth Cegin y Bobl drwy godi arian yn eich cymuned! O deithiau cerdded noddedig yn yr Hwb Sgiliau, Canolfan Coleshill yn Llanelli i roddion hael gan ddigwyddiadau fel The Do Lectures, mae cymunedau ledled y genedl wedi dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Cododd grwpiau lleol, fel Côr Cymunedol Sweet Harmony, arian trwy werthu tocynnau o'u cyngerdd gaeaf, tra bod llawer o gefnogwyr wedi trefnu ceginau cawl, nosweithiau caws a gwin, clybiau swper, a mwy. Mae pob ymdrech, boed fawr neu fach, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith Cegin y Bobl.
Lawrlwythwch ein Pecyn Codi Arian Cymunedol

Cwestiynau Cyffredin am Godi Arian

Ydyn! Rydyn ni wedi llunio pecyn codi arian cymunedol yn llawn o syniadau hawdd, gwych – o noson gawl, taith gerdded noddedig i rywbeth creadigol ac unigryw i chi!

Na! Mae croeso mawr i bob cyfraniad.

Mae’n helpu os gallwch osgoi anfon arian parod! Ebostiwch helo@ceginybobl.co.uk yn gofyn am ein manylion banc i wneud rhodd. Dywedwch rywbeth wrthym am eich stori hefyd – rydym yn gwerthfawrogi’r holl ymroddiad a gwaith sy’n mynd i godi arian!

Gwirfoddoli

Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr angerddol! Mae gennym gymuned gynyddol a chyfeillgar o wirfoddolwyr sy’n dod ochr yn ochr â’n cogyddion i drawsnewid bywydau trwy fwyd. Yn iau ac yn hŷn, mae ein gwirfoddolwyr wir yn gwneud i bethau ticio yma, ac mae llawer ohonynt yn arwyr bwyd go iawn eu hunain.

Cwestiynau Cyffredin Gwirfoddoli

Anfonwch e-bost i helo@ceginybobl.co.uk gyda’ch enw, lleoliad, argaeledd a chrynodeb byr o’ch profiad blaenorol o wirfoddoli a choginio.

Nid o reidrwydd! Er bod y rhan fwyaf o’n gwirfoddolwyr yn helpu ar ein cyrsiau ymarferol, mae angen sgiliau prawfddarllen, gweinyddu, cyfieithu arnom hefyd.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.