Mynd i'r cynnwys

Ein Gwaith

Ein Cenhadaeth

Mae Cegin y Bobl yn cynnal rhaglenni addysg bwyd trawsnewidiol a ddatblygwyd gan rai o gogyddion, tyfwyr ac arbenigwyr bwyd gorau Cymru. Mae ein gwaith yn adeiladu ar y rhaglen lwyddiannus o’r enw Cook24 a gynhaliwyd gan Goleg Sir Gâr yn 2023-4.

Rydyn ni'n credu y gall sgiliau bwyd a choginio helpu i ddatrys cymaint o'r problemau anodd rydyn ni'n eu hwynebu heddiw: clefydau sy'n deillio o’n diet, unigedd a phryder, a'r argyfwng mewn ffermio, bioamrywiaeth a chost byw. Drwy newid meddylfryd, o geginau cartref i ysgolion ac o dyfwyr i wneuthurwyr polisi, rydyn ni'n newid systemau bwyd er mwyn trawsnewid dyfodol bwyd i bawb.

01

Darganfod Bwyd

Mae'r cwrs 6 wythnos hwn yn helpu plant i ddechrau coginio, gan feithrin rhyddid, cyfrifoldeb a pharch yn y gegin, yn yr ystafell ddosbarth ac ar y fferm. Y nod yw newid perthynas plant â bwyd, trwy goginio.

Rydym wedi gweld presenoldeb a ffocws gwell yn deillio o hyn, a’r plant yn falch o'r hyn maen nhw wedi'i wneud ac yn agored i roi cynnig ar fwydydd a blasau newydd. Mae teuluoedd yn coginio mwy o bwyd ffres, ac mae athrawon yn gweld y gwahaniaeth o ddydd i ddydd.

Darganfod Bwyd
02

Arweinyddiaeth Fwyd

Mae ein rhaglen arweinyddiaeth fwyd yn helpu athrawon ac arweinwyr cymunedol i wneud bwyd yn rym er gwell yn eu hysgolion a’u cymunedau. Dros bedwar diwrnod o sesiynau, maent yn adeiladu sgiliau, hyder, ac yn creu cynllun i drawsnewid lle bwyd yn eu hysgolion neu eu cymunedau eu hun.

Wrth gymryd rhan byddwch yn gadael gyda'r wybodaeth, y technegau - a'r hyder y gall bwyd newid bywydau.

Arweinyddiaeth Fwyd
03

Coginio Gartref

Rydym yn cynnig cyrsiau coginio cartref 6 wythnos i bawb—o ddefnyddwyr banciau bwyd i rieni a grwpiau cymunedol. Rydym yn adeiladu hyder i goginio bwyd iach a blasus, o gynhwysion syml a fforddiadwy.

Mae’r cyrsiau'n cwmpasu sgiliau coginio sylfaenol, cynllunio bwydlenni, cyllidebu, a lleihau gwastraff bwyd. Byddwchyn gadael gyda sgiliau newydd, cymhelliant ac egni, a safbwynt hollol newydd ar fwyd.

Coginio Gartref
04

Coginio Awyr Agored

Dan arweiniad y cogydd Polly Baldwin, sylfaenydd "The Jolly Allotment", mae ein Gweithdy Coginio Awyr Agored yn cynnig profiad coginio unigryw.

Mae'r sesiwn undydd hon, sydd ar agor i ysgolion a grwpiau cymunedol, yn dysgu pobl i goginio yn yr awyr agored, ailgysylltu â natur, a darganfod pŵer bwyd dros dân.

Coginio Awyr Agored
05

Coginio Fel Cymuned

Wedi'i deilwra yn arbennig ar gyfer pob cymuned rydyn ni'n gweithio gyda hi, mae ein sesiynau coginio wythnosol yn dod â phobl gyda'i gilydd i wneud a rhannu pryd o fwyd.

O dan arweiniad ein cogyddion a gwirfoddolwyr, mae'r sesiynau hyn yn creu cysylltiadau, yn cynnig croeso cynnes, ac yn paratoi pryd iachus i’w rannu gyda phawb.

Coginio Fel Cymuned
06

Clwb Coginio Teuluol

Mae ein Clwb Coginio Teuluol wedi'i gynllunio i ddod â theuluoedd gyda'i gilydd mewn amgylchedd coginio hamddenol lle gall pawb ddysgu gwneud prydau bwyd fforddiadwy a iachus. Mae’r sesiynau wedi'u dylunio fel y gall pob aelod o'r teulu gymryd rhan a mwynhau'r profiad. Y ffocws yw adeiladu hyder i goginio yn y cartref, ac yn helpu gwneud amser bwyta yn bleserus, yn gydweithredol ac yn hwyl.

Clwb Coginio Teuluol
07

Gweithdai wedi eu teilwra i chi

Rydym yn partneru â byrddau iechyd y GIG, cymdeithasau cymunedol a busnesau i redeg gweithdai coginio. O gefnogi rhieni ifanc gyda maeth babanod i archwilio'r cysylltiadau rhwng bwyd, iechyd meddwl a llesiant, rydym wedi cynnal cyrsiau sy'n cael effaith go iawn.

Mae pob gweithdy yn unigryw. Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

Gweithdai wedi eu teilwra i chi
08

Addysg Bellach ac Uwch

Un o'n prif amcanion wrth i ni sefydlu Cegin y Bobl yw edrych tua'r dyfodol – drwy fuddsoddi mewn addysg. Ochr yn ochr ag athrawon a phlant ysgol mae angen i ni fagu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr bwyd, llunwyr polisi a chogyddion a ffermwyr angerddol yng Nghymru. Felly rydym yn gweithio gyda phartneriaid gwych i ddarparu addysg gyffrous a go iawn mewn bwyd a choginio.

Addysg Bellach ac Uwch
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.