Mynd i'r cynnwys

Coginio - er mwyn Cymru!

Scroll to discover

Bwyd go iawn, sgiliau go iawn, newid go iawn

Mae Cegin y Bobl yn gweithio i greu gwlad lle mae gan bawb y sgiliau a’r hyder i goginio bwyd blasus, iachus a fforddiadwy. Elusen addysg bwyd arloesol â’i chartref yn Sir Gâr yw Cegin y Bobl. Rydym yn helpu taclo rhai o heriau iechyd mwyaf Cymru trwy rannu sgiliau coginio gyda phawb.

Rydym yn cynnal gweithdai bwyd dan arweiniad tîm o gogyddion o fyd lletygarwch ar draws Cymru. O sesiynau coginio mewn ysgolion i gyrsiau i oedolion ac o sesiynau coginio teuluol i wleddoedd cymunedol, rydym am newid bywydau trwy bwyd.

Ein Gwaith

Darganfod Bwyd

Rydyn ni'n mynd â phlant cynradd ar daith chwe wythnos i ddarganfod byd bwyd, wedi'i goginio o gynhwysion syml, crai

Arweinyddiaeth Bwyd

Rydym yn hyfforddi arweinwyr i ddod â newid trawsnewidiol i'w cymunedau a'u sefydliadau trwy fwyd

Cyrsiau coginio

Rydyn ni'n dysgu pawb – yr hen a’r ifanc – sut i goginio bwyd syml, blasus o'r cynhwysion sylfaenol i fyny

Coginio fel cymuned

Rydyn ni’n hyfforddi gwirfoddolwyr yn eu cymunedau eu hunain i baratoi pryd o fwyd cynnes i fwydo pobl â bwyd blasus, maethlon

Cefnogwch ein gwaith

Trwy roi coginio yn ôl yn nwylo’r bobl, gallwn fynd i’r afael â chlefydau sy’n deillio o’n diet, anghydraddoldeb iechyd, ac adeiladu cymunedau cryfach ac iachach.

Helpwch rieni i goginio prydau bwyd fforddiadwy ac iach i’w plant. Helpwch berson ifanc i ennill hyder ac annibyniaeth. Helpwch gymuned i gymryd eu hiechyd i’w dwylo eu hun. Pam ddim gwneud rhodd heddiw.

Cyfranwch nawr
child looks at camera, cooking in a frying pan on a hob

Cymryd Rhan

Cymerwch ran a helpu i gefnogi cenhadaeth Cegin y Bobl drwy godi arian yn eich cymuned! O deithiau cerdded noddedig yn yr Hwb Sgiliau, Canolfan Coleshill yn Llanelli i roddion hael gan ddigwyddiadau fel The Do Lectures, mae cymunedau ledled y genedl wedi dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae pob ymdrech, boed fawr neu fach, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith Cegin y Bobl.

Cefnogwch ni

Halen Môn PAWB

 blas daearol, myglyd, a sawrus, mae Pawb yn gymysgedd beiddgar o Halen Môn Pur gyda chwmin a choriandr wedi'i dostio, paprica wedi mygu, ac oregano. Taenellwch hwn dros lysiau neu lletymau tatws cyn eu rhostio, neu ei ychwanegu ar ddechrau tsili neu Bolognese. Mae Pawb yn dod â dyfnder a chyfoeth i goginio bob dydd. Bydd 10% o'r elw o bob jar yn mynd i gefnogi gwaith Cegin y Bobl.
Prynu nawr
parc dewi logo nhs logo Carmarthen council logo food-sense-wales-logo maint cymru logo
parc dewi logo nhs logo Carmarthen council logo food-sense-wales-logo maint cymru logo
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.